Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol Iawn (cyfwerth â Band 7)
Cygnethealth
Cygnet Afon Las
Posted Nov 19, 2026
- Other
Job description
Helping others improve and turn their lives around – there’s no better feeling. It’s what we do for thousands of people at more than 150 sites across the UK. Be a part of it. Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol Iawn (cyfwerth â Band 7) Hyd at 50,632 - £ 57,940 yn ddibynnol ar brofiad Contract parhaol, llawn amser Lleoliad: Cygnet Afon Las Yn sgil agor gwasanaeth newydd, mae cyfle cyffrous ar gael i Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol ymuno â’n tîm! Mae Cygnet Afon Las yn wasanaeth newydd sbon a fydd yn agor ym mis Ebrill 2027 . Mae’r ysbyty 15 gwely hwn wedi’i leoli yng Nghorwen, Sir Ddinbych, a bydd yn darparu gwasanaeth niwrowybyddol a gofal a chymorth arbenigol i ddynion â chyflyrau niwrolegol cymhleth ochr yn ochr â chanlyniadau seiciatrig. Bydd y gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau gan y gymuned yn ogystal â gwasanaethau niwrolawfeddygol a niwroadsefydlol, gan gynnig llwybr ar gyfer asesu, rhoi triniaeth ac adfer yn unol â Model Gofal Cygnet. Efallai y bydd unigolion yn cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ac efallai y bydd gan rai ohonynt hanes fforensig. Y Swydd Fel Therapydd Iaith a Lleferydd yn y gwasanaeth hwn, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol â llwyth achosion arbenigol o gleifion ag anghenion cymhleth, gan asesu eu hanghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu (SCLN), yn ogystal â’u hanghenion bwyta, yfed a llyncu (EDS). Byddwch yn gweithio ac yn rhoi mewnbwn yn unol â Llwybr SLT Cygnet ar gyfer gwasanaethau niwroseiciatreg. Fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ar y safle, byddwch hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y gwasanaeth i gefnogi’r gwaith o roi dulliau rheoli ar waith a gwella sgiliau’r gweithlu yn ôl yr angen. Byddwch yn rhan o wasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd ehangach sy’n gweithredu ar draws y cwmni, ac felly byddwch yn cael cyfle i gyfrannu at brosiectau ar raddfa fawr. Byddwch yn cael goruchwyliaeth o ansawdd uchel a bydd digonedd o gyfleoedd DPP i’ch cefnogi. Rydym yn chwilio am Therapydd Iaith a Lleferydd sydd yn meddu ar y canlynol: Gradd/diploma ôl-radd (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Therapi Iaith a Lleferydd, wedi cofrestru â’r HCPC (Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal) ac yn aelod o’r RCSLT (Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd) Cymhwysedd i asesu a rheoli anghenion EDS yn annibynnol (gellir rhoi hyfforddiant a chyfle i ddatblygu yn y maes hwn os oes angen) Profiad ym maes niwroleg a / neu gyflyrau niwroddirywiol a gwybodaeth dda am Therapi Iaith a Lleferydd clinigol i ddangos hynny. Bydd unigolion â sgiliau trosglwyddadwy hefyd yn cael eu hystyried. Dealltwriaeth o Gefnogi Ymddygiad Cadarnhaol gyda phwyslais ar gynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn Tystiolaeth o fod yn aelod da o dîm gydag awydd gwirioneddol i helpu eraill Sgiliau cyfathrebu / rheoli amser rhagorol Yn gyfnewid am hyn, gallwn gynnig: Goruchwyliaeth Glinigol Ragorol, cyfleoedd DPP a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau ar gyfer dyletswyddau clinigol ac anghlinigol. Cyfarfodydd gwasanaeth rheolaidd a chyfarfodydd cymorth gan gymheiriaid gyda Therapyddion Iaith a Lleferydd. Cyfle i roi eich stamp ar y pecyn cymorth Hyfforddiant cynefino llawn Aelodaeth am ddim o CEN Cyfle i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau, mentrau Gwella Ansawdd a chyfleoedd ymchwil Cynllun arian wedi’i ariannu gan y cwmni sy’n eich galluogi i hawlio gwerth hyd at £1000 y flwyddyn o fuddion, gan gynnwys Ffisiotherapi, Osteopathi, Optometreg, Deintyddiaeth, ymgynghoriadau arbenigol, sganiau a phresgripsiynau am ddim. Pecyn Cymorth Iechyd Clyfar, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu 24 awr Gostyngiad yng nghost aelodaeth campfa yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd am ddim gyda ClassPass, Rhaglenni Maeth ac Ymgynghoriadau Ffitrwydd Gwobrau i weithwyr, cynllun buddiannau sy’n cynnwys gostyngiadau fel Perkbox Cygnet, Cerdyn Golau Glas, gostyngiadau’r GIG a llawer mwy Cynllun pensiwn cyfrannol y cwmni Cynllun Yswiriant Bywyd a delir gan y cwmni Cynllun Ceir Trydan Prydau bwyd am ddim a lle i barcio car am ddim yn ystod y shifft Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gael archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a darparu geirda, a bydd unrhyw gynnig yn amodol ar basio’r rhain yn llwyddiannus. I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dominique St Clair Miller, Cyfarwyddwr Therapi Iaith a Lleferydd (Gofal Iechyd) ar 07885 476 384. Ydych chi’n barod am gyfle newydd gwerth chweil? Gwnewch gais nawr. Dyddiad cau: 1 mis Dyddiad y cyfweliad: I'w gadarnhau Cofiwch y gall y cyfnod ymgeisio ddod i ben cyn y dyddiad hwn os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law. What next? If you care about making a difference – we want to talk to you. Click the button to apply